Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Amser:
11.20 -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12857
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Peredur Owen Griffiths AS (yn lle Heledd Fychan AS) Altaf Hussain AS (yn lle Tom Giffard AS) Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Steffan Roberts, Llywodraeth Cymru Neil Welch, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan AS a Tom Giffard AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ac Altaf Hussain AS ar eu rhan.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6, ac 8 o'r cyfarfod hwn
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft
4.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft a chytunwyd arno.
5 Craffu ar Waith y Gweinidogion
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch materion sy'n berthnasol i'r sesiwn.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.
8 Ôl-drafodaeth breifat
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.